Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-07-14
CLA360 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675).
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
1. Ni chafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud yn ddwyieithog.
[21.2 (ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].
Craffu ar y Rhinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Chwefror 2014
Ymateb y Llywodraeth
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014
Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o'r darpariaethau yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 O.S. 2010/675.
Mae'r drefn Trwyddedu Amgylcheddol yn rhesymoli rhannau gweithdrefnol swp o ddeddfwriaeth sy'n eithriadol o dechnegol a chymhleth. Mae wedi symleiddio gweithrediad y system drwyddedu y mae diwydiant a rheoleiddwyr yn gweithio odani heb gyfaddawdu mewn unrhyw fodd safonau amgylcheddol neu safonau iechyd dynol. Canlyniad hyn yw symleiddio'r cymhlethdod yr oedd diwydiant a rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ei wynebu o'r blaen.
Mae sicrhau'r newidiadau hyn drwy offerynnau cyfansawdd a wneir ynghyd â'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyson â'r nod o symleiddio y cyfeirir ato uchod. Mae'r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleihau anghyfleustra a dryswch posibl i'r rheini y mae'r Rheoliadau'n effeithio arnynt. Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Prydain. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na chael ei wneud, yn ddwyieithog.